Suo Gân

Huna blentyn yn fy mynwes Clyd a chynnes ydyw hon; Breichiau mam sy'n dynn amdanat, Cariad mam sy dan fy mron; Ni cha' dim amharu'th gyntun, Ni wna undyn â thi gam; Huna'n dawel, annwyl blentyn, Huna'n fwyn ar fron dy fam.

Huna'n dawel, heno, huna, Huna'n fwyn, y tlws ei lun; Pam yr wyt yn awr yn gwenu, Gwenu'n dirion yn dy hun? Ai angylion fry sy'n gwenu, Arnat ti yn gwenu'n llon, Tithau'n gwenu'n ôl dan huno, Huno'n dawel ar fy mron?

Paid ag ofni, dim ond deilen Gura, gura ar y ddôr; Paid ag ofni, ton fach unig Sua, sua ar lan y môr; Huna blentyn, nid oes yma Ddim i roddi iti fraw; Gwena'n dawel yn fy mynwes Ar yr engyl gwynion draw.

Anonymous

No comments: